• Dyddiad
    4th Mawrth 2025 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    Coutts, 440 Strand, London WC2R 0QS
  • Gwesteiwr
    NatWest Cymru
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Cinio unigryw clyd ym mhencadlys Coutts’ ar gyfer digwyddiad Wythnos Cymru Llundain cyntaf NatWest Cymru.

Bydd y noson yn dathlu ysbryd entrepreneuraidd enwog Cymru ac yn dwyn sefydliadau ac unigolion blaengar ynghyd sydd yn allweddol ar feithrin economi modern a fydd yn ffynnu yng Nghymru.

Bydd yn cynnig cyfle i unigolion gwadd gael sgwrs bord gron am lwyddiannau’r wlad a ffyrdd pellach i optimeiddio potensial twf economeg i Gymru yn 2025 – a thu hwnt.

Caiff y digwyddiad ei gynnal gan Jessica Shipman, Cadeirydd NatWest Cymru, gyda mewnwelediadau arbenigol wedi’u darparu gan Greg Kyle-Langley, Rheolwr Gyfarwyddwr, Pennaeth Arbenigwyr yn Coutts. Mae gan Greg flynyddoedd o brofiad yn cefnogi entrepreneuriaid yn Coutts a sefydlodd rhaglen Allanfa Fusnes NatWest, gan gynghori sefydlwyr ar sut i adael eu busnesau ar ôl iddyn nhw dyfu.

Bydd yr unigolion yn cynnwys arbenigwyr diwydiant, sylwebyddion ac unigolion busnes blaengar sydd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu tyfu’r economi yng Nghymru.