Mae Oriel Trefdraeth Sir Benfro yn cynnal ei nawfed Wythnos Gelf Cymreig, sydd yn gyfle cyffrous iawn i ddetholiad sefydledig o gelf Cymreig i’w weld mewn un man cyfarfod yn Llundain, i ddathlu diwylliant Cymreig drwy gelf.
Eleni bydd y thema sydd yn rhedeg drwy’r gwaith newydd yn cynnwys ‘Cadwraeth’, a phwysigrwydd talu sylw at ddiogelu’n amgylchedd drwy gelf.
Bydd yr arddangosfa hon sydd yn cyd-ddigwydd gyda Dydd Gŵyl Dewi yn cynnal sawl diwrnod o ddigwyddiadau celf, lansiadau llyfrau a nosweithiau diwylliant Cymreig, a phleser unwaith eto yw bod yn rhan o Wythnos Cymru Llundain, yn hyrwyddo popeth Cymreig yn y ddinas.
Mae gennym restr pobl cyffrous iawn. Ar Fawrth 1 am 7.00yh agorir ein noson lansio gan Jamie Owen, Awdur Cymreig a Darlledwr, a fydd yn trafod yn ein digwyddiad cyntaf am ei lyfr Sir Benfro a chawn hefyd gwmni’r Delynores Gymreig, Marian O'Toole, a fydd yn canu cerddoriaeth Gymreig draddodiadol.
Ddydd Iau 2 Mawrth, byddwn hefyd yn croesawu bardd o Sir Aberteifi, ac yn sgwrsio gyda graddedigion Celfyddyd Gain o Goleg Sir Benfro, eu gwaith rydym yn ei arddangos ar gyfer Wythnos Gelf Llundain.
Pleser hefyd fydd gweinyddi pice ar y maen arobryn a gwin Cymreig Llaethlliw o’i gwinllan yn Aberaeron; dewis rhagorol o luniaeth ysgafn wrth i westeiwyr fwynhau’r gwaith celf!
Bydd Arddangosfa Wythnos Gelf Cymreig yn digwydd am 5 diwrnod o 10.00yb tan 5.00yp yn ddyddiol, a bydd yn darfod ddydd Sadwrn 4 Mawrth am 3yp. Edrychwn ymlaen at eich croesawu!
Yr arlunwyr a fydd yn arddangos eu gwaith fydd: Wynmor Owen, Peter Morgan, Jacqueline Jones, Saoirse Morgan, David Humphreys, Alice Tennant, Denis Curry, Gillian McDonald, Jane Corsellis, Tim Fudge, Lilwen Lewis, Mike Jones, Anne Kerr, Heather Nixon, Barbara Simon, Ruth Sargeant, Janie Harrison, Sarah Poland, Jo Lowde, Adam Buick, Clare Rose, Lyndon Thomas, Sarah Poland, Pete Monaghan, Angharad Taris, Neil Mason, Maggie Brown, Sally James Thomas, Mary Lace, Caroline McLachlan, Gwyn Roberts, Ro Croxford, Zara Kuchi, Daniel Backhouse, Wim Van de Wege, Neill Curran, Pippa Cunningham, Chris Kelly, Jennifer Greenland, Noelle Pollington, Sallie Wakley, Andrew McCutcheon, Clare Ferguson-Walker a Paul Crofts.