• Dyddiad
    27th Chwefror 2024 at 07:30yp
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre, 157-163 Gray's Inn Rd, London WC1X 8UE
  • Gwesteiwr
    London Welsh Chorale
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Ydych chi’n byw neu’n gweithio yn Llundain? Hoffech chi ganu mewn côr cymysg, cyfeillgar?

Yn dilyn ein lansiad llwyddiannus o’r Ŵyl Gerddoriaeth Gymreig agoriadol yn Llundain ar 16/17 Chwefror, rydym yn recriwtio rhagor o aelodau i ymuno â ni ar gyfer ein rhaglen gyffrous o gyngherddau ar gyfer 2024!

Nid oes clywediadau a byddwn yn croesawu canwyr o bedwar ban y byd, sydd â chlust dda a brwdfrydedd ar gyfer cerddoriaeth gorawl, glasurol a cherddoriaeth Gymreig, a/neu gerddoriaeth gan gyfansoddwyr Cymreig.

Nid oes angen y gallu i siarad Cymraeg – gwnawn gynnig cefnogaeth gyda phob darn Cymraeg.

Beth am fwrw golwg ar ein gwefan am ragor o wybodaeth.

Os ydy e’n apelio, galwch heibio ac ymunwch â’n hymarferion wythnosol am 7.30yh ar ddydd Mawrth.