• Dyddiad
    2nd Mawrth 2020 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    PwC, 7 More London Riverside SE1 2RT
  • Gwesteiwr
    PwC Wales
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Fel rhan o nawdd PwC i Wythnos Cymru Llundain, byddwn yn cynnal digwyddiad, ar y thema Masnach Cymru, yn ein swyddfa More London ar gyfer pobl Gymreig a’u canolfannau yn Llundain ac unrhyw un arall sydd â diddordeb i ganfod mwy ynglŷn â pha mor wych yw Cymru fel gwlad i redeg busnes.

Hoffwn felly eich gwahodd i ymuno â Chadeirydd Cymru a Rhanbarth y Gorllewin PwC, John-Paul Barker, ochr yn ochr ag arweinyddion o Lywodraeth Cymru a busnes, i fod yn bresennol yn y digwyddiad rhwydweithio hwn ddydd Llun 2 Mawrth 2020.

Yn ogystal â chlywed am gynlluniau cyffrous PwC i Gymru, bydd Uwch Economydd PwC, Alex Tuckett, yn rhoi golwg cyffredinol o’r tirlun busnes Cymreig.

Byddwn hefyd yn clywed gan uwch swyddog yn Llywodraeth Cymru am y rheswm bod y cyfnod hwn yn gyfle da i wneud busnes yng Nghymru.

Rydym wrth ein bodd i ychwanegu hefyd y bydd Tim Openshaw o St David’s World yn lansio ei llwyfan gwefan newydd ar gyfer cysylltu pobl busnes Cymreig ledled y byd.

Bydd cyfle hefyd i rwydweithio a blasu rhywfaint o ddiod a bwyd Cymreig.

Rydym yn disgwyl diddordeb mawr yn y digwyddiad hwn, felly wnewch chi RSVP i Gavin Barnes (gan ddefnyddio’r ddolen e-bost a ddarparwyd) cyn gynted â phosib fel y gallwn neilltuo’ch lle.

Gobeithio gallwch ymuno â ni ar gyfer achlysur sydd yn addo bod yn un ffantastig i ddathlu popeth sydd yn wych am Gymru!