Bwriedir y digwyddiad hwn ar gyfer pob busnes Cymreig, boed eu bod yn egin fusnes neu’n graddio i fyny, gan gynnwys busnesau teulu ail a thrydedd genhedlaeth yn dyheu i gynyddu’n fwy.
Yn cael ei gyflwyno gan dri chwmni arbenigol, bydd y digwyddiad yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr i feysydd allweddol Cyllid, Cyfraith a Rheoli Cyfoeth. Bydd y sawl sy’n bresenol yn dysgu sut i ymdrechu i’r eithaf wrth i’w busnesau dyfu, gan gynnwys pynciau allweddol megis paratoi ar gyfer caffaeliad, cynllunio strategaeth allanfa neu dwf organig parhaus.






































