• Dyddiad
    7th Mawrth 2025 at 05:30yp
  • Man cyfarfod
    Royal Albert Hall, Kensington Gore, London SW7 2AP
  • Categori
    Chwaraeon

"I am excited to be fighting on the 7th March for what is the perfect way to end the incredible Wales Week London.

I hope everyone who has celebrated, can join me at the Royal Albert Hall for this historic all-women’s world championship boxing event, where I fight Natasha Jonas to become undisputed Welterweight World Champion." (Lauren Price MBE)

Anataliadwy, yn sicr, gwnaiff digwyddiad pencampwriaeth hanesyddol bocsio menywod y byd lenwi’r Royal Albert Hall . . .gan amlygu gornest uno teitlau’r byd lle fydd dau focsiwr o Brydain yn herio’i gilydd. Darlledir y digwyddiad carreg filltir hwn yn fyw gan Sky Sports a bydd yn ddigwyddiad agoriadol ymgyrch Diwrnod Rhyngwladol y Menywod byd eang 2025 y diwrnod wedyn.

Wedi’i hysbysebu fel un ‘Anataliadwy’, prif ornest y digwyddiad fydd yr un epig i uno’r adran pwysau welter y byd rhwng y Pencampwr WBC ac IBF y byd o Lerpwl, Natasha Jonas (16-2-1, 9 gornest wedi’u hennill drwy lorio’i gwrthwynebwr) a Lauren Price MBE o Gymru (8-0, 2 ornest wedi’u hennill drwyb lorio’i gwrthwynebwr).

Athletwr mwyaf arobryn Cymru yw Lauren – merch o’r Cymoedd a enillodd fedal aur yn y Gemau Olympaidd.

Ers pan oedd yn dri diwrnod oed, cafodd Lauren ei magu gan ddau berson cariadus, anhygoel a ddysgodd iddi nerth gwerth credu yn ei hun, ac y gallai rhywun lwyddo petai ganddyn nhw freuddwyd, ffocws a phenderfyniad.

Pan oedd yn 8 oed, roedd hi eisoes â’r dymuniad o lwyddo mewn Gemau Olympaidd. Roedd tri chyrchnod clir iawn gan Lauren: chwarae pêl droed dros Gymru, ennill pencampwriaeth gic-focsio’r byd ac ennill medal aur mewn Gemau Olympaidd.

Ar hyd y daith hon, bu adegau pan allai’r cyrchnodau aros yn freuddwyd yn unig. Gallai plentyndod Lauren wedi’i harwain ar hyd lwybr gwahanol, ond heddiw wele Lauren Price MBE:

- yr unig focsiwr o Gymru i ennill fedal aur mewn gornest Olympaidd

- Pencampwr Pwysau Welter Unedig y Byd

- yr unig focsiwr amatur i ennill fedalau aur yng Ngemau’r Gymanwlad, gornestau Pencampwriaeth Ewrop a’r Byd

- y fenyw gyntaf o Brydain i ennill deitl Prydeinig

- Olympiwr y Flwyddyn 2021

- Pencampwr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn Cymru 2021

- 52 o gapiau pêl droed dros Gymru

- yn Bencampwr Gornest Cic-focsio’r Byd bedair gwaith

Neilltuwch eich tocynnau yn awr – beth am orffen Wythnos Cymru Llundain eleni gyda’r sŵn Cymreig mwyaf anhygoel, gan helpu cefnogi Lauren i fuddugoliaeth syfrdanol!