• Dyddiad
    3rd Mawrth 2020 at 05:30yp
  • Man cyfarfod
    Arup, 8 Fitzroy St W1T 4BQ
  • Gwesteiwr
    Future Generations Commissioner for Wales, sponsored by Arup
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ymunwch â ni i drafod cyfraniad Cymru tuag at wneud y byd yn well lle, drwy bolisi, llunio-lle a dylunio. Bydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a’r panelwyr yn amlygu Cymru fel gwlad greadigol, yn y modd y mae’n deddfu, sut mae’n hyrwyddo’i hunan ar y llwyfan byd-eang, a sut mae’n dylunio cymunedau ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Dewch i glywed mwy am y Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n arwain y byd. O Seland Newydd i Ganada, o’r Emiraethau Arabaidd Unedig i Gibraltar, mae’r byd yn troi at Gymru wrth iddi ddatblygu a gweithredu syniadau sy’n rhoi anghenion cenedlaethau’r dyfodol wrth galon penderfyniadau, a sut y gallwch gynorthwyo ei mabwysiad ledled y DU.

Mae’r panelwyr yn cynnwys:

- Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru

- Dan Tram, Cyfranogydd yn Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol a Pheiriannydd Sifil yn Arup

- Yr Arglwydd John Bird, Aelod o’r Meinciau Croes a Sefydlydd Big Issue

- Lynne Berry OBE, Athro Arweinyddiaeth, Ysgol Fusnes CASS

I gofrestru eich diddordeb neu am fwy o wybodaeth os gwelwch yn dda ebostiwch contactus@futuregenerations.wales gan ddyfynnu 'Wales Week London' yn y blwch pwnc. Mae cofrestru ymlaen llaw yn hanfodol.