• Dyddiad
    26th Chwefror 2019 at 09:30yb
  • Man cyfarfod
    Olympia London, Hammersmith Rd, Hammersmith W14 8UX
  • Gwesteiwr
    North Wales Tourism
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Bydd Digwyddiadau Busnes Go North Wales yn bresennol yn Sioe International Confex yn Olympia Llundain ar 26 & 27 Chwefror 2019 i ddarparu ffocws cydlynol ar gyfer marchnata i’r sector hwn.

Gyda mwy na 8,000 o ymwelwyr gwahanol dros ddim ond 2 ddiwrnod, bydd International Confex yn cynnig cyfle busnes delfrydol i arddangos ein busnes i drefnwyr cynadleddau, cyfarfodydd, adeiladu tîm a grwpiau ysgogol.

Bydd Gogledd Cymru yn rheolaidd yn ennill clod byd eang am ei safon o ddewis hamdden a thwristiaeth a bellach rydym yn gwneud yr un peth i’r farchnad gorfforaethol. Fel pen siwrnai, mae angen i ni fod ar restr siopa uwch drefnwyr digwyddiadau a chynadleddau. Darpara Confex 2019 y sbringfwrdd i wneud hynny a gwych yw i ni fod yn bresennol yn y sioe hon i arddangos y gorau sydd gan Ogledd Cymru ei gynnig. Yn 2017 nodwyd Gogledd Cymru fel y pedwerydd pen siwrnai gorau yn y byd gan Lonely Planet, ac mae gennym ddewis eang ac amrywiol wrth gynnal cynadleddau a theithiau ysgogol.

Ein nod wrth arddangos yn y sioe yw manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a grëwyd gan:

- buddsoddiad Croeso Cymru yn y sector marchnad Digwyddiadau Busnes

- proffil uchel Gogledd Cymru ar hyn o bryd fel pen siwrnai y dylid ymweld â hi

- Y buddsoddiad sylweddol mewn cynhyrchion allweddol o ansawdd sydd ag atyniad marchnata i ddigwyddiadau busnes

- Sylfaen eang busnesau rhanbarthol gyda’r potensial i fod yn barod o ran marchnata i’r sector gwerth uchel, llai tymhorol hwn gyda dim ond cymorth ac anogaeth gyfyngedig.

Bydd Go North Wales yn hybu’r pen siwrnai i gleientiaid posibl ar Stondin I20Ctrwy gydol y sioe.

Y manylion cyswllt yw:

Digwyddiadau Busnes Go North Wales, 9 Wynnstay Road, Bae Colwyn, LL29 8NB;

Ffôn: 01492 539058

Twitter: @NWalesBizEvents