OLRHAIN HYNAFIAID CYMREIG
Cwrs hanner dydd gan Gill Thomas
Ydych chi o dras Gymreig? Diddordeb gennych i ymchwilio i’ch hanes teuluol yng Nghymru? Ymunwch ag achrestrydd proffesiynol Gill Thomas am gwrs hanner diwrnod ddydd Sadwrn 14 Mawrth yn y Gymdeithas Achrestryddion.
Er bod Cymru a Lloegr yn rhannu Cyfraith Gyffredin a phrif adnoddau ar gyfer ymchwil teuluol, mae heriau sylweddol wrth i haneswyr teuluol olrhain hynafiaid Cymreig. Cynifer o unigolion yn rhannu cyn lleied o gyfenwau yw’r her fwyaf. Sut allwn ni fod yn siŵr ein bod wedi dod o hyd i gofnod yn ymwneud â’r hynafiad cywir? Pam ddiflannodd eich cyndeidiau o gofrestri’r plwyf? Pam a phryd wnaeth bobl o Gymru ymfudo i rannau eraill Lloegr a thu hwnt? Pa adnoddau penodol i Gymru sy’n bodoli ar-lein ac oddi arno i gynorthwyo’ch ymchwil? Oes angen i chi ddeall Cymraeg i allu cynyddu’ch ymchwil?
Boed ai Thomas, Jones, Davies neu Evans yw eich hynafiaid; yn mynd i’r eglwys neu gapel; bydd yr areithwraig Gill Thomas yn eich tywys trwy’r dryswch Cymreig bendigedig, o bob cyfeiriad gogledd, de, dwyrain a gorllewin.
Mae’r tocynnau’n costio £20 ac maen nhw ar gael o wefan Cymdeithas yr Achrestryddion fan’ma.
Achrestrydd proffesiynol yw Gill Thomas yn arbenigo ym maes olrhain hynafiaid Cymreig. Mae hin aelod o AGRA. Ceir mwy o fanylion am ei harfer ymchwil fan’ma.