Oes gennych chi Jones, Davies neu Thomas yn eich coeden deulu? Ydych chi’n gwybod y gwahaniaeth rhwng Aberhonddu a Brecon? A wnaeth eich cyndeidiau addoli mewn capel neu mewn eglwys? Wnaeth eich cyndeidiau symud i neu o Gymru?
Ymunwch â Gill Thomas am gwrs hanner diwrnod yn canolbwyntio ar linach Gymreig.
Mae Gill am eich helpu i ganfod llawer mwy am eu bywydau a’r llefydd roeddent yn byw ynddynt, gan gwmpasu sut i gael mynediad i gofnodion ar-lein a dogfennau mewn archifau.
Yn ystod y cwrs bydd Gill yn cwmpasu:
- cofnodion gweinyddu ardal ac eglwysig
- cyfenwau
- arysgrifen cofebion a chofnodion cyn cyfrifiad
- catrodau byddin Gymreig a gwasanaeth y Llynges Fasnachol
Dim ond £20 y person yw’r cwrs hanner diwrnod hwn.
---------------------------------------
Amdano Gill Thomas
- B.A Hanes Prifysgol Caerdydd
- Tystysgrif ôl-radd mewn Astudiaethau Achyddol, Herodrol a Phelograffig, Prifysgol Strathclyde (PGCert)
- Aelod AGRA
- Aelod Cymdeithas Achyddesau, Llundain
- Aelod Cymdeithas Hanes Teuluol Sir Aberteifi; Cymdeithas Hanes Teuluol Dyfed; Cymdeithas Hanes Teuluol Powys a Chymdeithas Hanes Teuluol Cymreig yn Llundain.