• Dyddiad
    29th Chwefror 2020 at 03:00yp
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre, 157-163 Gray’s Inn Road
  • Gwesteiwr
    Manon Browning
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Cyngerdd â phleser melys!

Wedi bod erioed yn angerddol am gyflwyno cerddoriaeth glasurol i gynulleidfa mewn ffordd wahanol, mae Manon Browning wedi creu profiad cyngerdd gan ystyried hynny.

Bydd yn perfformio cyngerdd o gerddoriaeth delyn glasurol, ac yn cyflwyno’r darnau i’r gynulleidfa, gan roi mewnwelediad i fywyd y cyfansoddwyr, yr hyn a ysgogodd eu hysgrifennu a’r hyn y golyga’r darn.

Mae hyn yn rhoi mwy o fewnwelediad i’r gynulleidfa a modd pleserus o wrando ar gerddoriaeth glasurol, yn enwedig darnau nad ydyn nhw efallai wedi clywed o’r blaen.

Hefyd caiff y gynulleidfa fwynhau’r profiad hwn â phaned o de a darn o gacen, sydd yn ychwanegu at elfen hamddenol y cyngerdd. Daw hefyd yn ffordd newydd hyfryd o fwynhau te yn y prynhawn ac egwyl oddi ar strydoedd prysur Llundain!

Am Manon Browning:

Wyth oed oedd Manon pan ddechreuodd chwarae’r delyn, ac erbyn hyn mae wedi ennill ei gradd meistr yn Ysgol Gerddoriaeth a Drama Guildhall, ar ôl cyflawni ei gradd fel myfyriwr israddedig yno, ac astudio o dan Imogen Barford.

Yn gyn disgybl yn Ysgol Gyfun Plasmawr, astudiodd hi’r delyn yn gyntaf dan Meinir Heulyn.

Bu’n llwyddiannus mewn cystadlaethau megis Gŵyl Delyn Ryngwladol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol, ac mae wedi mwynhau perfformio mewn amryw leoliad ar draws Caerdydd a Llundain fel unawdydd.

Mae gan Manon brofiad cyfoethog fel chwaraeydd cerddorfa, ac roedd yn aelod o Gerddorfa Ieuenctid Cenedlaethol Cymru am bum mlynedd, y ddwy olaf fel y Brif Delynores. Mae wedi perfformio ar rai o lwyfannau cyngerdd gorau Ewrop gyda’r gerddorfa, gan gynnwys Berlin Konzerthaus a’r Sage Gateshead.

Yn angerddol o blaid dod â cherddoriaeth i gynulleidfa ehangach, bydd yn mwynhau addysgu yn fawr iawn ac mae wedi perfformio drwy’r cynllun Cerddoriaeth mewn Ysbytai.