• Dyddiad
    28th Chwefror 2024 at 03:30yp
  • Man cyfarfod
    Gerald Eve LLP, One Fitzroy, 6 Mortimer Street, London W1T 3JJ
  • Gwesteiwr
    Gerald Eve
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Fel busnes gyda phresenoldeb eang yn Llundain a sylfeini Cymreig dwfn, gan gynnwys ein swyddfa blaenllaw yng Nghaerdydd, mae Gerald Eve yn falch i noddi Wythnos Cymru Llundain. Rhaglen o ddigwyddiadau’n dathlu popeth Cymreig, yn y Ddinas.

Ar gyfer ein digwyddiad arbennig ein hunain, mae Gerald Eve yn cynnal digwyddiad ar ddyfodol y sector ynni yng Nghymru. Mae gan Gymru sector deinamig a llwyddiannus gydag adnoddau naturiol penigamp a’r potensial i fod yn arweinydd byd ym maes ynni morol, ynni adnewyddadwy, pwer thermol, hydrogen a niwclear.

Bydd ein Pennaeth Ynni, John Howells, yng nghwmni panel o arbenigwyr sydd yn ymwneud â rhai o’r brosiectau ynni mwyaf cyffrous ar draws Cymru.

- John Howells, Head of Energy, Gerald Eve
- Helen Thomas, Head of Property, Associated British Ports
- Mark Picton, Senior Stakeholder Manager, RWE
- James Trafford, Global Head of Real Estate, Eversheds Sutherland

Ar gyfer mwy o wybodaeth cysylltwch mewn e-bost â Holly Bryant, Rheolwr Datblygu Busnes ar hollybryant@geraldeve.com