• Dyddiad
    11th Mawrth 2017 at 09:00yb
  • Man cyfarfod
    Eglwys Llundain, Eastcastle Street
  • Gwesteiwr
    Urdd Cymru

Os ydych chi’n byw tu allan i Gymru ac yn hoff o gystadlu, mae Eisteddfod ranbarthol yn cael ei chynnal yn Llundain bob blwyddyn.

Cynhelir yr Eisteddfod yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain am 9:00yb. Cliciwch ar y ddolen i'r dde o'r dudalen am ragor o fanylion am yr Eglwys.

Os hoffech ragor o fanylion am yr Eisteddfod, mae croeso i chi gysylltu gyda Steffan Prys: 01678 541 015 neu steffanprys@urdd.org

Mae'r cystadlaethau yn agored i unrhyw aelod o'r Urdd a anwyd yng Nghymru, y ganwyd un o'i rhieni yng Nghymru, unrhyw berson sy'n byw yng Nghymru yn union cyn yr Ŵyl neu unrhyw berson sy'n siarad neu'n ysgrifennu Cymraeg.

Mae Pwyllgor rhanbarth hefyd wedi ei sefydlu yn Llundain i ymgymryd â’r gwaith o drefnu'r Eisteddfod i gystadleuwyr sy’n byw tu allan i Gymru. Os hoffech fod yn rhan ohono, cysylltwch gyda Steffan ar y manylion uchod.