Arddangosiad peintio gan yr arlunydd Cymreig rhyfeddol sydd wedi ennill gwobrau, Nichola Hope.
Mae’r cyfyngiadau symud wedi dod â nifer ohonom yn agosach i fyd natur. Mae celf mewn gwirionedd yn ein helpu i ail-ddarganfod ac ymgysylltu â natur. Mae fy ymarfer celf yn cael ei ysbrydoli gan fywyd gwyllt Cymru a Phrydain.
Yn yr arddangosiad hwn, byddaf yn rhannu fy nhechnegau ac ymagwedd at greu celf bywyd gwyllt.
Mae’r digwyddiad hwn yn addas i bob lefel sgil. Os hoffech greu gwaith celf yn ystod yr arddangosiad, rwy’n darparu rhestr deunyddiau a argymhellir a delwedd cyfeirio.