• Dyddiad
    28th Chwefror 2020 at 09:30yb
  • Man cyfarfod
    Somerset House, Strand WC2R 1LA
  • Gwesteiwr
    Bryn Williams at Somerset House
  • Categori
    Bwyd A Chrefftau

Gwerthwyd pob tocyn i’r digwyddiad hwn – ffordd ardderchog i ddechrau’r dathliadau wrth inni edrych ymlaen at Fawrth 1af – Brecwast Blynyddol Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain!

Bydd y Cogydd enwog o Gymru, Bryn Williams, yn arlwyo brecwast, gan arddangos danteithion bwyd Cymreig yn nhiroedd hardd Somerset House.

Wrth gymysgu gyda’ch cydwladwyr Cymreig da a mawr yn Llundain, a chydag amryw o enwogion Cymru, gallwch fwynhau cynhwysion Cymreig wedi’u paratoi gan Bryn a’i dîm, gan gynnwys canapés brecwast megis cawl cennin a thatws, wystrys wedi’u ffrio’n ddwfn, pwdin gwaed ac afal, caws pob, roliau sosej a choffi newydd ei wneud, a detholiad o de, sudd ffrwythau ffres, cwrw a gwin pefriol Cymreig.

9.30yb - 11.30yb

Manylion ar sut i brynu’ch tocynnau ar gael maes o law.

Bydd yr holl elw yn mynd i elusen Wythnos Cymru Llundain, Canolfan Gancr Felindre.