Dringwch ar fwrdd y Silver Sturgeon, cwch hwylio ceinaf Llundain ar afonydd, ar gyfer prynhawn bythgofiadwy ar yr afon Tafwys.
Llithrwch rhwng San Steffan a Greenwich wrth i chi fwynhau cinio ysblennydd tri chwrs, gwinoedd coeth a golygfeydd panoramig o dirnodau eiconig y ddinas.
Bydd y digwyddiad unigryw hwn, gyda’r cyflwynwr a’r darlledwr Matt Johnson wrth y llyw, hefyd yn cynnwys:
- Derbyniad siampên
- Perfformiadau grymus gan y Welsh Pops Quartet, Sophie Evans a Steffan Rhys Hughes o Welsh of the West End
- Areithiau ysbrydoledig gan yr anturwr a’r niwrowyddonydd Dr. Elin Haf Davies a’r cyflwynwr a newyddiadurwr UDA o Gymraes, Maxine Hughes
Oherwydd natur y digwyddiad hwn, mae’r tocynnau’n gyfyngedig, felly y cyntaf i’r felin fydd hi am daith fythgofiadwy.
Bydd yr holl arian o’r digwyddiad yn cefnogi gwaith allweddol Gofal Cancr Tenovus.







































