• Dyddiad
    28th Chwefror 2023 at 02:00yp
  • Man cyfarfod
    RBC Brewin Dolphin, 12 Smithfield Street, London EC1A 9LA
  • Gwesteiwr
    Tramshed Tech
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Mae’r digwyddiad hwn yn taflu golau ar ecosystem entrepreneuriol Tramshed Tech a sut gellir cefnogi entrepreneuriaid ymhob cam eu cylch bywyd.

Gyda rhwydwaith sefydlog sydd yn datblygu’n barhaol o bartneriaid arloesedd, cyfleoedd buddsoddi, isadeiledd a chefnogaeth fusnes ystwyth, mae’n gyfle i Tramshed Tech arwain y ffordd fel hafan egin fusnesau yng Nghymru yn esbonyddol.

Mae tirlun arloesedd gryf yng Nghymru. Bydd hyn yn cyflwyno cyfle unigryw i’r sîn technoleg Gymreig ymuno ag ecosystem technoleg llwyddiannus, gan gynnig y cyfle i fusnesau ymuno â sbardunwyr sefydledig, cydweithio â phartneriaid technoleg ymgysylltiol ac ennill cefnogaeth fusnes gan arbenigwyr ym myd diwydiant, gan greu’r sylfaen R&D berffaith i fusnesau feithryn cynhyrchion a gwasanaethau sydd ar flaen y gad.

Rydym wedi gofyn i rai o egin fusnesau disgleiriaf Cymru ymuno â ni yn RBC Brewin Dolphin, gan roi mewnwelediad i’r hyn sydd gan Gymru ei chynnig i unigolion sydd yn edrych am ddechrau’u taith entrepreneuriol.

Bydd y digwyddiad yn arddangos tirlun arloesedd Cymru a’r cyfleoedd sydd ar gael i gwmniau o ystod o sectorau gwahanol. Cawn ein hymuno gan yr hynod ddawnus:

  • QZee
  • Surple
  • Configur
  • Lattice
  • Route Konnect
  • Play Thru
  • Virtus Tech
  • Used and Loved
  • Ship Shape
  • Empirysis
  • Stratigens

Amserlen:

2pm – Cwmniau’n paratoi’r llwyfan

3.30pm - 4.30pm – Cyflwyniadau arddangos

4.30pm - 5.30pm – Trafodaeth banel

5.30pm - 8.00pm – Rhwydweithio a diodydd

Yn dilyn y drafodaeth banel bydd cyfle i rwydweithio a chysylltu â’r sector technoleg yng Nghymru yng nghwmni buddsoddwyr a chynghorwyr busnes byd-eang.

Cynhelir y digwyddiad gan Tramshed Tech yn adeilad RBC Brewin Dolphin yn Farringdon.