MINI-RYGBI CYMRY LLUNDAIN – CEFNOGI’R GENHEDLAETH NESAF O CHWARAEWYR RYGBI DAWNUS
Gŵyl Mini-Rygbi Dydd Gŵyl Dewi, Dydd Sul 25 Chwefror 2024
Beth am ddod a bod yn dyst i ddyfodol rygbi Cymru – yn ne orllewin Llundain!
Mae Mini-Rygbi Cymry Llundain yn croesawu timau ledled Cymru, yn ogystal â gwrthwynebwyr lleol traddodiadol o deulu rygbi gorllewin Llundain, i’n Gŵyl Mini-Rygbi flynyddol ar Ddydd Gŵyl Dewi yn Old Deer Park.
Bydd plant chwe i ddeuddeg oed yn sereni ar y maes cysegredig yn ein digwyddiad blynyddol poblogaidd gan, yn wirioneddol, droedio ar bob gwelltyn borfa ein clwb!
Yn ogystal â bod yn dyst i wledd o rygbi gradd oed cystadleuol, ffantastig a chyflym, cewch groeso twym galon ym mar byrlymus ein clwb ac ystafell weithredu lle gallwch fwynhau bwyd a diod gan gynhyrchwyr lleol dethol, yn ogystal â’n cegin brysur.
Bydd yr awyrgylch bob amser yn gyfeillgar i deuluoedd ac anogir pawb i alw heibio a chefnogi ac ysgogi sêr rygbi’r dyfodol.
ON: bydd y cŵn poeth a’r pice ar y maen a wnaed gartref bob amser yn plesio!
#wemakedragons #LWFamily
Am ragor o wybodaeth dilynnwch ein criw ar Twitter @LWMiniRFC