• Dyddiad
    27th Chwefror 2026 at 05:45yp
  • Man cyfarfod
    Guildhall
  • Gwesteiwr
    St. David’s Day Dinner in London Organising Committee / Pwyllgor Trefnu Cinio Dydd Gŵyl Dewi yn Llundain
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ers 1904 bellach, mae’r gymuned Gymraeg yn Llundain wedi cynnal Cinio Dydd Gŵyl Dewi yn flynyddol a’r un fydd y drefn eleni eto.

Cynhelir cinio 2026 yn Guildhall ar ddydd Gwener, 27ain Chwefror. Bydd y digwyddiad ‘tei du’ yn gyfle i gwrdd â hen ffrindiau, gwneud rhai newydd a dathlu popeth Cymraeg!

Ein prif siaradwr eleni fydd y darlledwr a chyn Cyfarwyddwr Cyfathrebu Rhif 10, Guto Harri a bydd Prif Weithredwr Urdd Gobaith Cymru, Siân Lewis, yn cynnig y llwncdestun i Dewi Sant.

Bydd y bariton Steffan Lloyd Owen a’r tenor Trystan Llŷr Griffiths yn ein hadlonni ynghyd ac enillydd Gwobr Syr Bryn Terfel yn Eisteddfod yr Urdd 2025, y soprano Ffion Thomas.

Mae’n bleser gennym barhau a’n partneriaeth elusennol gyda Sefydliad Cymunedol Cymru.

Gwybodaeth am bris tocynnau:

  • Byrddau noddwyr (x10 gwestai) yn £2,000
  • Byrddau safonol (x10 gwestai) yn £1,700
  • Tocyn unigol noddwr yn £200
  • Tocyn unigol safonol yn £170
  • Tocyn unigol dan 35 yn £100

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: st.davidsdaydinner@gmail.com