Cyngerdd elusennol yn cefnogi’r RNLISefydlwyd Côr Meibion Cymry Llundain ym 1902, ac yn gyflym enillodd enw da wrth rhagori wrth berfformio a llwyddo mewn cystadlaethau yn Lloegr, Cymru a Pharis. Ar ôl i’r ddau Rhyfel Byd amharu arno, ailsefydlodd y Côr ym 1961 a bellach mae ganddo fwy na chant o aelodau.
Mae gan Gôr Meibion Cymry Llundain repertoire eang o gerddoriaeth sydd yn weddus i bob achlysur, yr Emynau Cymraeg Mawr, caneuon ysbrydol, cerddoriaeth o’r Sioeau, cytganau opera enwog, caneuon gwerin, pop neu hwiangerddi. Rydym yn enwog am bŵer ac angerdd ein perfformiadau yn ogystal â dehongliadau teimladwy ein cerddoriaeth. A bydd ein Siacedi Coch enwog yn lliwio unrhyw ddigwyddiad.
Mae gennym brofiad eang o berfformio mewn neuaddau cyngerdd ac Eglwysi Cadeiriol o amgylch y byd. Rydym wedi canu yn Neuadd Frenhinol Albert ac yn Eglwys Gadeiriol Caergaint a llawer eraill, mewn achlysuron chwaraeon fel y Gemau Olympaidd yn Llundain, Stadiwm y Principality yng Nghaerdydd, yn Stadiwm Wembley yn ogystal ag ymddangos a chanu ar y teledu.
Roedd hi’n anrhydedd i ni ganu mewn amryw goffâdau cenedlaethol: Blodau Pabi yn Nhŵr Llundain, coffâdau VJ gyda’r Horse Guards, yn ogystal â chanu’n deimladwy wrth y Gofadail yn Llundain a chanu hefyd yn naddliadau Tywysog Cymru yn 70 oed ym Malas Buckingham.
Rydym hefyd yn falch i gefnogi elusennau gan gyflwyno achlysuron lliwgar a swynol.







































