• Dyddiad
    6th Mawrth 2019 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    TBC
  • Gwesteiwr
    Acorn Recruitment & Welsh Government
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Os ydych chi'n meddwl y gallech ystyried dychwelyd i Gymru yn yr ychydig flynyddoedd nesaf a hoffech ddeall pa gyfleoedd gwaith bydd ar gael, yna bydd y digwyddiad hwn yn berffaith ar eich cyfer.

Bydd arbenigwyr o Acorn, asiantaeth recriwtio blaenllaw Cymru, ac o Lywodraeth Cymru yn cynnig cipolwg ar y sectorau sy'n tyfu yng Nghymru, gan gynnwys unrhyw bwyslais rhanbarthol, a bydd yn dangos pam fod Cymru'n le gwych i fyw, gweithio a magu teulu.

Bydd y noson hefyd yn cynnwys cyflwyniadau a chyfweliadau gyda phobl sydd wedi dychwelyd i Gymru ar ôl dechrau eu gyrfaoedd yn Llundain.

Yn ystod y cyflwyniad, anogir cwestiynau, sylwadau a thrafodaeth gan gynnwys unrhyw beth sy'n ymwneud â phroffesiwn, diwydiant neu sector penodol - ac wrth gwrs, unrhyw beth sy'n ymwneud â chwilio am waith a dod o hyd i'r cyflogwr mwyaf addas.

Mae pawb yn ymwybodol fod ansawdd bywyd gwych yng Nghymru, gyda chostau byw rhesymol iawn, cysylltiadau a mynediad hawdd i Lundain a phrif ganolfannau rhanbarthol eraill yn y de orllewin, canolbarth Lloegr a'r gogledd - felly ni fydd angen i ni ganolbwyntio ormod ar hynny!

Ond efallai eich bod yn ansicr ynglŷn â sut i gychwyn y broses o ddod o hyd i waith a symud yn ôl i Gymru, neu'n ansicr o ba gyfleoedd sy'n debygol o fod ar gael i chi - ac felly gallai'r digwyddiad hwn eich helpu.

Bydd enwau / manylion y rhai sy'n mynychu yn parhau'n gyfrinachol.

Manylion i'w cadarnhau cyn bo hir.