• Dyddiad
    24th Chwefror 2026 at 4:00yp
  • Man cyfarfod
    Troup Bywaters + Anders LLP
  • Gwesteiwr
    Troup Bywaters + Anders, Rees Worx and CCR Energy
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Beth am adael y ffurfioldeb ac ymuno â ni mewn digwyddiad rhwydweithio anffurfiol, hamddenol fel rhan o Wythnos Cymru Llundain.

Sgyrsiau da, cysylltiadau ystyrlon ac awyrgylch croesawus bydd hanfod y prynhawn hamddenol hwn – dim cynnig syniadau, dim pwysau. Boed a ydych yn ailgysylltu â gwynebau adnabyddus neu’n cwrdd am y tro cyntaf, dyma gyfle i rwydweithio’n naturiol â phobl sydd â chysylltiadau cryf â Chymru a’i chymuned busnes.

Yr hyn i’w ddisgwyl:

  • Amgylchedd rhwydweithio anffurfiol, cyfeillgar
  • Sgyrsiau mewnweledol â sefydliadau sydd â chysylltiadau â Chymru
  • Lluniaeth ysgafn a digon o amser i gymysgu â phobl

Cysylltu â sefydliadau, gan gynnwys:

  • CCR Energy – ar flaen y gad yn trawsnewid Gorsaf Bŵer Aberthaw i gyrchfan ynni carbon isel yn ne ddwyrain Cymru.
  • Rees Worx – sefydliad ymgynghori â’i chanolfan yn y Deyrnas Unedig yn darparu Datblygiad Busnes, gwasanaethau Marchnata a Chyfathrebu ar draws yr amgylchedd adeiladu. Gan weitho â sefydliadau’r sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector, bydd Rees Worx yn canolbwyntio ar greu llwybrau at gyflogaeth drwy helpu busnesau i dyfu, cysylltu a chyflwyno cyfleoedd swyddi newydd ar bob lefel.
  • Troup Bywaters + Anders – ymgynghoriaeth beirianegol gwasanaethau adeiladu blaengar, a adnabyddir am ei hymagwedd gynaliadwy gweithio ar y cyd sydd yn canolbwyntio ar y dyfodol yn yr amgylchedd adeiladu. Bydd gyda balchder yn cynnal y digwyddiad rhwydweithio hamddenol hwn yn ystod Wythnos Cymru Llundain.

Pu’n ai a yw’ch canolfan yng Nghymru, wedi’ch geni yng Nghymru, neu’n syml wedi’ch ysbrydoli gan Gymru, bydd croeso i chi.

Beth am alw heibio a mwynhau rhwydweithio mewn ffordd hamddenol.