• Dyddiad
    5th Mawrth 2025 at 05:00yp
  • Gwesteiwr
    DeepLearn Human Science
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ymunwch â ni am ddigwyddiad unigryw yn archwilio sut bydd Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn ailffurfio dyfodol addysg o ddysgu wedi’i bersonoli i lwyfanau hyfforddi deallus.

Dyma’ch cyfle i gysylltu ag arweinwyr, addysgwyr ac arloeswyr sydd ar y gad o ran newid.

Yr hyn i’w ddisgwyl:

· Mewnweliadau ar flaen y gad ar addysg a yrrir gan AI

· Trafodaethau panel arbenigol ac arddangosfeydd rhyngweithiol

· Rhwydweithio gydag arloeswyr ym maes Technoleg Addysg ac A1

Panel:

· John Allison – Rheolwr Gyfarwyddwr, Yondur a TLC

· Sophie Howe – Cynghorwr Dyfodol Cynaliadwy a Llesiant

· Chris Butt – Prif Weithredwr a Sefydlydd, Gwyddor Dynol DeepLearn

· Rhys Morris – Rheolwr Gyfarwyddwr, Busy UK

· Jayne Brewer – Prif Weithredwr, 2B Enterprising

Byddwn yn trafod:

· AI a Photensial Dynol: Sut y gall technoleg ddatgloi creadiagrwydd, addasrwydd a meddylfryd beirniadol o ran dysgwyr o bob oedran.

· Tegwch Ar Draws Cenedlaethau: Rhan gwerth cymdeithasol o ran creu systemau cynhwysol a fydd yn grymuso cymunedau a danwasanaethir a hyrwyddo effaith rhyng-genhedlaethol.

· Partneriaethau ar gyfer Newid: Cyfleoedd i weithio ar y cyd ag addysgwyr, gwneuthurwyr polisi, a diwydiannau i ffurfio dyfodol lle bydd addysg yn gyrru arloesedd a chydraddoldeb.

Boed ag ydych yn addysgwr, gwneuthurwr polisi, neu arweinydd diwydiant, gwnaiff y digwyddiad hwn sbarduno sgyrsiau a fydd yn ffurfio’r oes ddysgu nesaf.

Neilltuwch eich lle heddiw, RSVP yn awr.

Os oes diddordeb gennych, cysylltwch â threfnydd y digwyddiad gan ddefnyddio’r ddolen a ddarperir uchod.