Fel rhan o’n nawdd i Wythnos Cymru Llundain rydym yn falch i gynnal digwyddiad gydag Uchel Gomisiwn Canada, Llundain.
Yn dilyn trosglwyddo Brewin Dolphin gan RBC ym Medi 2022, dyma gyfle i amlygu a hyrwyddo cyd-weithio pellach rhwng Cymru a Chanada.
Bydd yn ddathliad o berthynas sydd eisoes yn bodoli ac yn gyfle i ffurfio meysydd newydd o gydweithio, er enghraifft, yn nhechnoleg, i gynnwys technoleg ariannol a thechnoleg iechyd, sydd yn feysydd allweddol o ddiddordeb i’r ddwy wlad.
Drwy ddwyn ynghyd gynrychiolwyr o lywodraeth a busnes, dyma gyfle unigryw i gryfhau’r berthynas.