Bydd Dirprwyaeth Llywodraeth Catalonia i’r Deyrnas Unedig ac Iwerddon, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn cynnal derbyniad ar 24 Chwefror, fel rhan o Wythnos Cymru Llundain.
Yn 2026, bydd Catalonia a Chymru’n arwyddo Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda’r nod o hyrwyddo cydweithrediad a chryfhau cylymau ym meysydd diddordebau a rhennir, megis arloesedd, lled-ddargludyddion, hyrwyddo ieithoedd, cyfnewidiau diwylliannol, ac addysg, gan gynnwys cynlluniau symud i ieuenctid.
Bydd y digwyddiad hwn drwy wahoddiad yn unig, a bydd yn cynnig cyfle unigryw i rwydweithio a dathlu arwyddiad y Memorandwm rhwng Cymru a Chatalonia, i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi yng nghwmni’n ffrindiau o Gymru.
Bydd y digwyddiad yn dwyn gwesteion Cymreig a Chatalan ynghyd o feysydd busnes, academia a diwylliant, gan feithrin dathliad o berthnasau sydd eisoes yn bodoli a pharatoi’r ffordd i gyfleion newydd.






































