Mae Prifysgol Caerdydd yn ôl yn Llundain, gan ddwyn academyddion blaenllaw ynghyd, sydd yn gweithio ar flaen y gad ym maes ymchwil arloesol.
Byddwn yn trafod pynciau allweddol tra’n dod â’n ffrindiau ynghyd i sgwrsio, dadlau a chymdeithasu.
Ymunwch â’r Athro Duncan Wass a chydweithwyr o Sefydliad Arloesedd Sero Net a fydd yn rhannu gweledigaeth Caerdydd o ddarparu atebion gwirioneddol ar gyfer dyfodol Sero Net.
Wrth i’r tirlun gwleidyddol ynghylch Sero Net dwymo, hoffai academyddion yng Nghaerdydd fod yn llais gobaith mewn cyfnod ofnus.
Digwyddiad yn dechrau: 18:00
Cyfarchion a chyflwyniadau anffurfiol gan academyddion: 18.30
Rhwydweithio, sgwrsio a diodydd: 19:00-20.30