• Dyddiad
    28th Chwefror 2024 at 05:45yp
  • Man cyfarfod
    Westminster Millennium Pier
  • Gwesteiwr
    Platfform
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Rydym oll yn cydnabod yr heriau enfawr sydd yn wynebu systemau iechyd meddwl y dyddiau hyn – felly mae’n hanfodol i ni gadw meithrin rhwydwaith a chymuned ar gyfer cysylltedd, gwella a newid.

Nid yw systemau helpu ein cymdeithas yn effeithiol. Mae angen eu hail-ddylunio i gymryd cyfrif o’r pethau sydd yn wirioneddol yn effeithio ar ein hiechyd meddwl cyffredinol – tlodi, trallod, anghyfiawnder a trawma. Mae gennym oll ran i’w chwarae mewn newid positif.

Mae’r cynulliad hwn yn cynnig sgyrsiau diddorol, cysylltiadau gwerthfawr a myfyrio. Byddwn yn dwyn arweinwyr diwydiant, gwneuthurwyr newid cymdeithasol ynghyd, yn ogystal â chefnogwyr ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector – pawb gyda’r awydd i wneud pethau’n wahanol.

Cawn ein hymuno gan ein siaradwr gwadd, Darren McGarvey. Ysgrifennwr, colofnydd ac artist recordio hip hop yw Darren, ac adnabyddir ef hefyd dan yr enw llwyfan Loki, ac mae wedi ymddangos ar y cyfryngau yn rheolaidd fel sylwebydd cymdeithasol.

Mae tîm Platfform yn eich gwahodd i ymuno â ni am noson hamddenol o sgwrsio, cysylltu a lles ar daith afon Tafwys Pride of London!

Ein nod parhaol yw dwyn arweinwyr diwydiant, gwneuthurwyr newid cymdeithasol ynghyd, yn ogystal â chefnogwyr ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat a’r trydydd sector. Gyda’n gilydd, gallwn gydnabod a dathlu ein gwaith ar y cyd tuag at ymagwedd fwy tosturiol i iechyd meddwl a lles.

Yn dilyn llwyddiant ein digwyddiad lansio Manifesto’r llynedd, cyffrous inni yw parhau i sgwrsio a meithrin cysylltiadau sydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.