Noson o sgyrsiau, cysylltiadau, ac adeiladu cymunedau gobaith gydag arweinwyr a gwneuthurwyr newid.
Yn dychwelyd am y pedwerydd tro, mae tîm Platfform yn eich gwahodd i ymuno â nhw ar fwrdd yr Elizabethan – replica hardd o afonfad ager Mississipi ag olwyn badl tua’i phen ôl o’r 1890au, gan fwynhau’r gorau o olygfeydd Llundain, tra’n archwilio pam mai ymyriad iechyd meddwl yw cymuned.
Bydd y digwyddiad hwn yn dwyn arweinwyr a gwneuthurwyr newid ynghyd o’r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol mewn man ysblennydd, i gysylltu ac archwilio sut y gallwn ddod at ein gilydd i helpu’n cymunedau i ffynnu ac adeiladu gobaith ar gyfer y dyfodol. Gwnawn rannu enghreifftiau o’n gwaith a sut fyddwn yn hyrwyddo cymunedau ar gyfer iechyd meddwl gwell.
Yn gadael Westminster Pier am 6yh, bydd gwesteion yn mwynhau derbyniad diod a chanapes, adloniant a sgwrsio da.







































