• Dyddiad
    27th Chwefror 2020 at 04:00yp
  • Man cyfarfod
    Bouygues UK, Beckett House, 1 Lambeth Palace Road, Lambeth SE1 7EU
  • Gwesteiwr
    Cardiff Capital Region Business Council
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys nifer o areithiau gwahanol gan unigolion allweddol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd sydd yn gwthio mentrau adfywio a chyfleoedd buddsoddi yn eu blaen.

Stori’r Barri – gorffennol i’w pharchu; a dyfodol hyderus

Bydd y cyflwyniad yn cynnwys datblygiad hanesyddol y Barri fel porthladd diwydiannol, y dreftadaeth fel cyrchfan ar yr arfordir ac wrth ochr y cei, a’r twf posibl cyffrous ar gyfer twristiaeth, tai a phrosiectau masnachol.

Nid trac rasio mohono; newid y naratif

Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r gwaith wedi parhau yn Blaenau Gwent i nodi sut y gall dyheadau’r sector preifat a chyhoeddus, busnes lleol a thrigolion Blaenau’r Cymoedd fanteisio i’r eithaf ar safle pwysig gyda chysylltiadau rhagorol â Chanolbarth Lloegr. Mae cydgyfeiriad technoleg, yr angen i leihau carbon a’r gofyniad i ddatblygu atebion cyflymach yn golygu bod y diwydiant modurol yn gofyn am gyfleusterau profi sydd yn canolbwyntio ar orchfygu’r heriau cyfredol a gall y fenter hon a nodwyd yn Ne Cymru chwarae rhan bwysig yn yr esblygiad hwnnw.

Disgwylir i T3 Global fod yn gyfleuster profi cylchynol ar gyfer symudedd modurol a chludol yn y DU, Ewrop a byd-eang…

Eiddo tirol ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd – safbwynt datblygwr

Mae’r tirlun eiddo tirol yng Nghaerdydd yn newid: mae prosiectau sylweddol ar draws y ddinas, gan gynnwys Datblygu’r Sgwâr Canolog yn chwyldroi’r atebion eiddo sydd ar gael i fusnesau.

Bydd Rightacres Property yn trafod y cyfleoedd y daw’r datblygiadau hyn i’r rhanbarth.