Ymunwch ag Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru yn Wythnos Cymru Llundain ar gyfer trafodaeth banel ysbrydoledig dros ginio. Dan arweiniad y cyflwynydd teledu, Sean Fletcher, ac wedi’i gynnal yn garedig gan Arup, bydd y digwyddiad yn ymchwilio i sut mae datrysiadau seiliedig ar natur yn helpu hinsawdd a chymunedau Cymru.
Bydd y sgwrs hon, sy’n ysgogi’r meddwl, yn tynnu sylw at sut mae grymuso pobl i gefnogi natur yn creu buddion i bawb. O sefydlogi ein hinsawdd ac amddiffyn rhag tywydd eithafol, i hybu iechyd a llesiant, cryfhau ein heconomi a diogelu bywyd gwyllt a mannau gwyllt - mae partneriaethau ledled Cymru eisoes yn cyflawni newid ar raddfa tirwedd, gan gael effaith barhaol.
Mae’r panel yn cynnwys:
- Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru; Trystan Edwards, Rheolwr Cyffredinol Eryri ac Emma Kolano-Rogers, Ceidwad ac Aelod o Grŵp Ieuenctid Her Adfywio
- Arup – Dr. Pippa Wood, Ecolegydd a Chynghorydd ar Bolisi a Strategaeth Natur
- Admiral - Sonia Hensley, Rheolwr Cynaliadwyedd Grŵp
- Cyfoeth Naturiol Cymru - Sarah Jennings, Prif Gyfarwyddwr Cwsmeriaid, Masnachol a Chyfathrebu
- Byddwch yn rhan o'r sgwrs ynghylch sut mae gweithredu ar y cyd yn creu dyfodol mwy gwyrdd a gwydn i Gymru.






































