• Dyddiad
    2nd Mawrth 2020 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    Valero Energy Ltd, Canary Wharf
  • Gwesteiwr
    Planed
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Wedi’i hwyluso gan bartneriaid ledled y sir trwy Banel Busnes Sir Penfro, bydd y derbyniad allweddol hwn, yn cael ei gynnal yn garedig gan Valero Energy, yn arddangos y llu olygon sydd gan y sir ryfeddol hon ei chynnig.

Yn ogystal â’n traethau safon byd, tirluniau, a chroeso, mae gan y sir ar hyn o bryd nifer o fusnesau, entrepreneuriaid a sefydliadau allweddol ar draws nifer o sectorau allweddol, y mae eu gweithluoedd yn profi cydbwysedd gwaith-bywyd heb ei ail.

Bydd y derbyniad yn arddangos yr hyn sydd gan y sir i’w chynnig i fusnesau sy’n bwriadu buddsoddi, unigolion yn gobeithio adleoli, a chwmnïau yn dymuno ehangu a thyfu; i gyd mewn sir gyda chysylltiadau da, sydd hefyd yn hyrwyddo ffordd o fyw a lles, sydd heb ei fath ac yn unigryw o fewn y DU.

Gydag arweinyddion busnes a dinesig o bob sector allweddol yn bresennol i helpu hyrwyddo a thrafod yr hyn sydd gan Sir Penfro ei chynnig, bydd y sesiwn rhwydweithio hon yn eich galluogi chi a’ch busnes, i ystyried pam fod ymgysylltu â Sir Penfro yn gam positif tuag at gyflawni’r union gyfleoedd ar gyfer twf, datblygiad a deilliannau gwell i bawb.

Mae’r derbyniad yn rhad ac am ddim, ac rydym yn croesawu pawb sydd â diddordeb neu gysylltiad â Sir Penfro, a Chymru’n gyffredinol, i gofrestru ac ymuno â ni ar y noson hon yng nghanol Canary Wharf.