• Dyddiad
    3rd Mawrth 2020 at 09:30yb
  • Man cyfarfod
    Tom Simmons Tower Bridge, 2 Still Walk SE1 2RF
  • Gwesteiwr
    Pembrokeshire Business Panel
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Hoffai Panel Busnes Sir Penfro groesawu pawb i ymuno â ni i ddathlu’r gorau o Dwristiaeth a Lletygarwch Sir Penfro mewn digwyddiad brecwast yn cael ei gynnal yn garedig gan Tom Simmons yn ei le bwyta Tower Bridge.

Wedi’i noddi gan y Retreats Group, bydd y digwyddiad brecwast yn gweinyddu blas o Sir Penfro, tra bod y rhai sydd yn bresennol yn clywed a gweld y gorau sydd gan y sir ei gynnig.

Cafodd Tom Simmons ei eni a’i fagu yn Sir Penfro, ac mae ar flaen y gad o ran y gegin yn darparu prydau ardderchog o gynhwysion a’u ffynhonnell wedi’i ystyried yn ofalus, a bydd y digwyddiad hwn yn canolbwyntio ar gynnyrch yn ymwneud yn benodol â Sir Penfro.

Digwyddiad brecwast nid i’w golli yw hwn, a gyda’r gost yn £10 yn unig y person, da chi ni ddylid ei golli!

I gofrestru i fod yn bresennol yn nigwyddiad brecwast Panel Busnes Sir Penfro, cysylltwch yn gyntaf â hello@planed.org.uk