• Dyddiad
    3rd Mawrth 2024 at 08:00yp
  • Man cyfarfod
    The Pheasantry, 152 Kings Road, London SW3 4UT
  • Gwesteiwr
    HAKA Entertainment and Pizza Express Live
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Bydd y ddeuawd syfrdanol, ‘Ovation’, yn cyflwyno ei sioe ‘Diamonds & Divas’, sydd yn llawn hudoliaeth, ac yn gorlifo gan ganeuon iasol o fyd y llwyfan a’r sgrin.

Gan ddathlu difas fel Shirley Bassey, Barbra Streisand, Maria Callas a nifer mwy, bydd Ovation yn cymryd y gynulleidfa ar daith ar thema diemyntau o fyd yr opera, sinema a theatr, gan wisgo caneuon cyffredinol boblogaidd mewn harmoniau disglair a deniadol.

Mae’r ddwy ffrind mynwesol, Gwawr Edwards a Sioned Terry, yn eiddgar i berfformio fel deuawd am y tro cyntaf yn Pheasantry, gan rannu yr hyn y byddai rhan fwyaf o gynulleidfaoedd yn cytuno yw gemau cerddorol yn rhinwedd eu hunain o dan oleuadau poblogaidd y lleoliad hwn.

Wedi’u cyflwyno i chi gan HAKA Entertainment a Pizza Express Live.