• Dyddiad
    27th Chwefror 2021 at 10:00yb
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Mae Queen Street Gallery yn falch i gyflwyno ein harddangosfa rithiol newydd yn Wythnos Cymru Llundain - Origin.

Arddangosfa rithiol o gelf Gymreig gan arlunwyr Queen Street Gallery yn gweithio i thema pwy ydym ni, o ble ddaethom ni, a lle dymunwn fod…

Ym maes celf Gymreig mae traddodiadau a theimladrwydd ein cyndeidiau Celtaidd yn dod i’r wyneb yn aml ym maes celfwaith gyfoes. Mae’r cyfryngau a ddefnyddiwn a’r ffordd y byddwn yn eu defnyddio mor amrywiol â’n pwyntiau dechrau ysbrydoledig.

Mae’r gair Origin yn agor gweledigaeth ehangach athronyddol efallai. Mae’n annog ymholiad fwy craff i fewn i, ymysg posibiliadau eraill sydd yn llywio’n gwaith. Mae tarddiad ein hiaith hynafol, yr hen chwedlau a’r atgofion teuluol fwy cartrefol, hanes yn ei synwyr ehangach, i gyd yn ennyn gwaith sydd yn darbwyllo oherwydd ei fod yn cael ei deimlo’n ddwfn.

Gall hefyd fod yn weledigaeth fwy agored; ein syniadau, beth yw EU gwreiddiau, o ble daw ysbrydoliaeth?

Eginyn syniad, eginiad, hadyn, cell sengl, gwreiddiau yw’r rhain i gyd y mae’r potensial ar gyfer twf yn enfawr ynddynt, maent i gyd yn esgor ar waith sydd yn darbwyllo gan fe’i teimlir yn ddwfn ac y gallant berthyn i’r gorffennol, presennol a’r dyfodol, ble rydym ni, wedi bod neu am fod.

Mae’r arlunwyr yn cynnwys: Alison Moger, Anna Hale, Beatrice Williams, Bert Evans, Bethan Ash, Brenda Evans, Carol Evans, Catherine Taylor-Parry, Chantel Ridley, David Williams, Donna Gray, Elaine Graham, Felix Akulw, Geoff Brown, Graham Parker, Haf Weighton, Jacqueline Jones, Jess Parry, Kate Bell, Kushuma Holyoak, Lesley Dearn, Lizzie Tobin, Lloyd Novelle-Jones, Lynnford Jones, Maria Pierides, Maria Van-Tintelen, Maureen Carlson, Nicola Gregory, Patricia McParlin, Paul Joyner, Paul Rossi, Peter Evans, Phillipa Sibert, Robert Harrison, Roma Mountjoy, Rosemary Cassidy Buswell, Susan Sands, Sandra Wintle, Steve Roe, Thomasin Toohie, Tracey Lewis, Valerie James, Vivian Rhule, Vivienne Albiston, Wynne Jenkins.