• Dyddiad
    25th Chwefror 2020 at 01:00yp
  • Man cyfarfod
    London Welsh Centre, 157-163 Gray’s Inn Road
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Mam Ivor Novello i ymweld â Chanolfan Cymry Llundain!

Caiff Novello & Son, drama newydd gan yr awdur Cymreig, Arnold Evans, ei pherfformio yng Nghanolfan Cymry Llundain yn ystod Wythnos Cymru Llundain 2020.

Bydd y sioe yn cyflwyno Rosamund Shelley fel mam Ivor Novello, cymeriad a hanner sydd yn mynnu rhannu cartref Llundain Ivor – a’i fywyd. 1938 yw’r flwyddyn, ac mae Clara Novello Davies diflino, bellach yn ei 70au, yn boenus ymwybodol bod y byd, y mae Ivor yn gwirioni arno, wedi anghofio am ei llwyddiannau cerddorol hithau – ac nad oes ei hangen ar Ivor yn gymaint â’i hangen hithau ohono ef.

Gyda’u perthynas (eto fyth) ar bwynt argyfwng yn y ddrama ddoniol ac weithiau, deimladwy hon, mae Clara yn canu hoff ganeuon Ivor ac - am y tro cyntaf - yn wynebu’r helyntion poenus sydd wedi ffurfio’i bywyd rhyfeddol a’i pherthynas gymhleth â’i mab.

Wedi’i magu mewn cartref Cymreig diymhongar, daeth Clara Novello Davies yn brif gantores canu gorawl yng Nghymru ac enillodd enw da byd eang fel arweinydd côr a hyfforddwr canu. Enillodd ei Chôr Brenhinol Merched Cymreig wobrau rhyngwladol, fe wnaethon nhw ganu i aelodau Teulu Brenhinol a rhannu’r llwyfan yn rheolaidd â pherfformwyr megis Adelina Patti.

Ond nid oedd ei henwogrwydd i’w gymharu ag un ei mab a ddaeth yn seren y ffilmiau mud a llwyfannau’r West End. Ysgrifennodd, cynhyrchodd a serennodd mewn nifer o sioeau cerddorol ysblennydd (Glamorous Nights, The Dancing Years, etc.) Mae llawer o’i ganeuon yn parhau’n boblogaidd hyd hedddiw (Keep the Home Fires Burning, We’ll gather Lilacs in the Spring, etc.).