Pleser yw cyhoeddi arddangosfa fechan o waith Norma Kerr, dylunydd a’i chanolfan yng Nghymru, yn yr RSA (Cymdeithas Frenhinol ar gyfer annog Celfyddyd, Cynhyrchu a Masnach), tan 1af Mawrth 2024.
Am Norma Kerr:
Yn gynt, bu Norma’n dylunio gemwaith gwisgoedd, ac yn rhinwedd y swydd bu yn Hong Kong, Taiwan a De Korea, gan ddysgu’r holl ddulliau o gynhyrchu torfol. Yna, dychwelodd i Emwaith Cain i gynhyrchu casgliad platinwm i Van Peterson.
Yn cael ei wneud gan grefftwyr yn gweithio o feinciau gemwaith Dickensiaidd a gaed ar ben grisiau tywyll a llychlyd uwchben strydoedd Hatton Garden, i’w gwerthu’n gyfan gwbl ar-lein, y casgliad oedd yr un cyntaf o’r brandiau moethusrwydd a gafodd ei lansio yn ystod y ffyniant dot com cyntaf. Roedd y dechnoleg a’r farchnad yn ei swyno, felly aeth yn ôl i’r ysgol ac astudio ar gyfer diploma Marchnata ôl-raddio.
Gyda’r wybodaeth newydd hon symudodd i fryniau Cymru a dechrau gyrfa newydd sbon yng Ngŵyl y Gelli.
Gweithiodd Norma ei hun i ddod yn Gynhyrchydd Gŵyl y Gelli, Cymru, ac yna Gyfarwyddwr Datblygu. Dwy ar bymtheg o flynyddoedd a nifer fawr o Wyliau yn ddiweddarach, o Ŵyl y Gelli i Nairobi, Merthyr Tydfil i Alhambra Palace.
Daeth yr amser i Norma ddychwelyd i’w mainc gemwaith, i gadw’i sgiliau a’i chreadigrwydd yn fyw. O’i bywyd o deithiau menter o gwmpas y byd, y tri gair hwn sydd yn golygu fwyaf iddi, i roi Cariad, bod yn llawn Gobaith a, pa drallod bynnag a wynebir, gwneud hynny gyda Gras.
Gwneir gemwaith Norma o fwy na 95% o arian a ailgylchwyd, gwneir ef i barhau ac i’w drosglwyddo drwy’r cenedlaethau.
Fel cymrawd RSA, mae Norma’n rhannu’u cenhadaeth i alluogi pobl, lleoedd a’r blaned i ffynnu mewn cytgord. Gwna Norma gyfraniad bach i hyn drwy ddad-ddofi tir ac adfer bioamrywiaeth yn ei gwersyll- erw o dir yn y wlad yn Sir Hereford yr agorodd yn 2021 i hyd at 10 gwersyllwr i fwynhau natur gyda’i gilydd.
Drwy adfer cynefinoedd, plannu coed a gadael ardaloedd o dir prysg i dyfu, mae Norma eisoes wedi cynyddu bioamrywiaeth y tir pori hwn a oedd gynt yn dir ungnwd. Darganfyddwch fwy yn www.maggiesfield.camp.