Yn dilyn perfformiadau gyda chynulleidfaoedd, lle gwerthwyd pob tocyn, ledled Ewrop a’r DU, daw NoFit State Circus’ LEXICON i Lundain am gyfres gyfyngedig yn unig, gan addo dechrau bywiog a direidus i gynulleidfaoedd ar ddechrau’r Flwyddyn Newydd.
Byd o ledrith, golau a hwyl yw LEXICON wedi’i gyfanheddu gan misffitiaid tawel a barddoniaeth ar garlam. Beth am gael eich difyrru gan eiliadau afieithus gwyllt wrth i’r cwmni farchogaeth desgiau hedegog neu’n jyglo ffaglau llosg. Cewch eich syfrdanu gan eiliadau barddoniaeth gorfforol yn ogystal â champau acrobatiaid yn cynnwys rhaffau, trapîs a mwy.
Dangosa NoFit State drefn sgiliau syrcas cyfoes, campus, wedi’i gyflwyno yn eu harddull chwareus eu hunain, i gyd wedi’i osod i gerddoriaeth fyw, atmosfferig gan fand.
Ddeng mlynedd ar hugain ers ei ddechreuad gostyngedig, NoFit State yw cwmni syrcas cyfoes, blaenllaw, ar raddfa fawr y DU. Mae’r cwmni’n byw gyda’i gilydd, yn gweithio, bwyta, chwerthin ac wylo gyda’i gilydd - gan deithio mewn tryciau, trelars a charafannau, gan fyw ac anadlu fel un gymuned. Dyma sy’n creu anian NoFit State a rhoi calon ac enaid i’w waith.
Caiff Lexicon ei gyfarwyddo gan Firenza Guidi, ac mae ei lwyddiannau’n cynnwys ei gynhyrchiad mawr ei glod, Bianco, a welwyd diwethaf yn y Roundhouse yn 2013.