• Dyddiad
    1st Mawrth 2019 at 06:00yp
  • Man cyfarfod
    Jumeirah Carlton Tower, 1 Cadogan Place, Belgravia SW1X 9PY
  • Gwesteiwr
    National Mentoring Awards
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Yn galw ar bob Mentor! – Yn cydnabod y gwaith rhagorol rydych yn ei wneud!

Cafodd Gwobrau Mentora Cenedlaethol ei lansio i greu modelau rôl ysbrydoledig ar draws bob sector busnes, addysg, chwaraeon a chymdeithas.

Yn cael ei gynnwys eleni mae categori penodol i Gymru, wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, sydd yn cydnabod unigolyn neu sefydliad sydd wedi cyfrannu’n gadarnhaol drwy fentora busnes yng Nghymru.

Yn digwydd ar 1 Mawrth 2019 yn Llundain, bydd y gwobrau yn rhoi cydnabyddiaeth cyhoeddus am ‘ragoriaeth mentora’ i unigolion a sefydliadau.

Mae croeso i fentoriaid, mentoreon, sefydliadau a chyflogwyr i wneud cais ac mae’r ceisiadau’n agored i’r sawl sy’n mentora ar draws pob maes bywyd, boed yn eu busnesau, chwaraeon, cymuned a bywydau personol neu broffesiynol.

Beth am arddangos ymrwymiad eich sefydliad i gefnogi mentora ar lefel cenedlaethol drwy wneud cais heddiw!

Bydd enwebiadau gwobrwyo yn cau ar 27 Ionawr 2019.

Am wybodaeth bellach neu i wneud cais ymwelwch â gwefan National Mentoring Awards .

Ydych chi’n fusnes bach yn edrych i wella neu dyfu? Yna beth am ymweld â thudalennau Mentora Busnes Cymru, i ganfod sut y gallwch gael ei baru â mentor gyda’r sgiliau i’ch helpu i gymryd eich busnes i’r lefel nesaf.