Fel rhan o wythnos Cymru yn Llundain 2018, bydd Amgueddfa Cymru yn arddangos eitemau pwysig o'r casgliadau mewn fflach amgueddfa yn Eglwys Gymraeg Canol Llundain.
Bydd staff yno hefyd i esbonio datblygiadau cyffrous diweddaraf yn y sefydliad cenedlaethol poblogaidd, gan gynnwys gwaith ailddatblygu Sain Ffagan wrth i'r project ddod at ei derfyn gyda'r amgueddfa bron iawn yn 70 oed.
Ar noswyl Gŵyl Ddewi bydd yn gyfle gwych i ddathlu hanes a diwylliant Cymru.