• Dyddiad
    27th Chwefror 2024 at 12:00yp
  • Man cyfarfod
    Queen Mother Sports Centre, 223 Vauxhall Bridge Rd, Pimlico, London SW1V 1EL
  • Gwesteiwr
    Welsh Sports Association and Swim Wales
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru (WSA) ar y cyd â Nofio Cymru yn cynnal digwyddiad Wythnos Cymru Llundain ‘Enillion Ymylol ym myd Chwaraeon a Busnes’.

Cawn ein hymuno gan Bencampwr Nofio Pili Pala’r Gymanwlad 2018, Alys Thomas, a Phencampwr Nofio ar y Cefn y Gymanwlad 2014, Georgia Davies.

Dewch ar daith mewnweledol hudol wrth i athletwyr elît yn hael rannu’u strategaethau ar gyfer gwthio ffiniau perfformiad corfforol.

Darganfyddwch sut mae eu hymdrechion dibaid am enillion ymylol yn ei gwthio i uchafbwynt llwyddiant. Ond beth sydd yn digwydd pan fo’r annisgwyl yn codi yn ystod rhas pwysicaf eich bywyd? Ymunwch â ni i ddadlenni’r heriau a wynebir, y gwersi a ddysgwyd, a’r gwytnwch sydd yn diffinio’r unigolion eithriadol hyn.

Bydd cyfle i gymryd rhan mewn trafodaethau sydd yn ysgogi’r meddwl a rhwydweithio, lle bydd athletwyr elît ac unigolion busnes yn cyfrannu ar y cyd, gan rannu cyfrinachau eu llwyddiannau ac archwilio sut y gellir defnyddio enillion ymylol i gyflawni mawredd mewn unrhyw faes.