Dathlwch Ddydd Gŵyl Dewi yng nghanol Dwyrain Llundain wrth i Flas Cymru ddychwelyd i Old Spitalfields Market ddydd Sul 1 Mawrth.
Ar ddiwrnod cenedlaethol Cymru, dewch i flasu a darganfod cynnyrch gan gynhyrchwyr Cymreig blaenllaw sy’n arddangos ansawdd, creadigrwydd a chynaliadwyedd bwyd a diod Cymru heddiw.
Yn rhan o Wales Week London, mae croeso i bawb ymuno â’r dathliad bywiog hwn.
Dim angen archebu — dewch draw i fwynhau blas Cymru.
#MakeitWelsh #CaruCymruCaruBlas #LoveWalesLoveTaste







































