• Dyddiad
    1st Mawrth 2023 at 11:30yb
  • Man cyfarfod
    LTA National Tennis Centre, 100 Priory Lane, Roehampton, London, SW15 5JQ
  • Gwesteiwr
    LTA, Tennis Wales, Welsh Sports Association & Speakeasy Club
  • Categori
    Chwaraeon

Mae’r LTA, Tenis Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru yn gwahodd y gymuned Cymry Llundain i ymuno â ni yn y Ganolfan Tenis Cenedlaethol yn Llundain ddydd Mercher 1 Mawrth 2023.

Caiff gwesteion olwg y tu ôl i’r llen ar hafan Tenis Prydain, gan fwynhau trafodaeth gan banel o arweinyddion yr LTA, Tenis Cymru a Chymdeithas Chwaraeon Cymru ar weledigaeth tenis ar gyfer y dyfodol, a sut mae Cymdeithas Chwaraeon Cymru yn cydweithio, datblygu a hybu chwaraeon ar hyd a lled Cymru.

  • Bydd gwesteion hefyd yn gallu dewis a chymryd rhan mewn:
  • Taith o amgylch y Ganolfan Tenis Cenedlaethol – canolfan ymarfer ar gyfer Syr Andy Murray, Emma Raducanu a chwaraewyr mwyaf dawnus Prydain
  • Rhoi cynnig ar denis padel, camp sydd yn tyfu gyflymaf yn Ewrop
  • Cymryd rhan mewn sesiwn tenis cardio
  • Mwynhau sesiwn ar faes clai yng nghwmni hyfforddwr perfformiad Cymru, Mat James