• Dyddiad
    27th Chwefror 2020 at 07:15yp
  • Man cyfarfod
    Soho Theatre, 21 Dean Street W1D 3NE
  • Gwesteiwr
    Soho Theatre
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Carys, dyma sioe llawn hwyl a llawenydd drygionus sydd yn cynnwys rhywfaint o wyddoniaeth difrifol ddifyrrus.

Cewch ddigon o giamocs wrth i Carys eich cymryd drwy ei blynyddoedd ffurfiannol; chwant, bywyd ac unigrwydd yn ogystal â baled rymus yr 80au ar ei phroffil Tinder.

Gan gyfuno hanesion teimladwy am uchafbwyntiau ac isel bwyntiau perthynas a’r rhai hollol ddyrys, daw digonedd o sass, siocled, cwtchys a chaneuon anferthol hefyd i’w perfformiad wrth iddi siarad am ei phrofiadau.

Dewch i ddarganfod sut mae cariad yn gweithio o fewn pob un ohonom, pam ei fod yn ein gorfodi i wneud pethau hurt a pham mai cwtsh yw’r ateb.

Cer i’r diawl, epidemig unigrwydd – mae dy geilliau yng ngafael Carys.