CYMRY LLUNDAIN – CEFNOGI’R GENHEDLAETH NESAF O CHWARAEWYR RYGBI DAWNUS
Dewch i fod yn dyst i ddyfodol rygbi Cymru – yn cael ei arddangos yng ngorllewin Llundain!
Bydd Clwb Rygbi Cymry Llundain yn croesawu timau rygbi o Gymru benbaladr, yn ogystal â chystadleuwyr lleol traddodiadol o deulu rygbi gorllewin Llundain, i’n Gŵyl Mini Rygbi Dydd Gŵyl Dewi yn Old Deer Park. Bydd plant 6 i 12 oed yn goleuo’r borfa gysegredig yn ein digwyddiad poblogaidd a fydd yn llythrennol yn defnyddio pob modfedd o borfa’n clwb!
Yn ogystal â bod yn dyst i rywfaint o rygbi ffantastig ac yn rhyfeddol o gystadleuol, cewch groeso cynnes yn ein bar clwb ac ystafell derbyniadau prysur lle cewch fwynhau bwyd a diod gan gynhyrchwyr lleol detholedig, yn ogystal ag o’n cegin brysur.
Mae’r awyrgylch bob amser yn gyfeillgar i deuluoedd ac anogir pawb i ymweld â ni i gymeradwyo sêr dyfodol ein gêm annwyl.
O.N. Nid yw’r cŵn poeth a’r pice ar y maen Cymreig a wneir gartref fyth yn siomi!
Mae’r timau o Gymru sydd eisoes wedi cadarnhau’u presenoldeb cyn belled yn cynnwys:
Abergavenny, Caerau Ely, Cowbridge, Clwb Rygbi Cymry Caerdydd (CRCC), Loughor a St Albans
#wemakedragons #LWFamily
Am ragor o wybodaeth dilynwch ein ciwed ar Twitter @LWMiniRFC