O syniadau ysbrydoledig bychain yn nyddiau cynnar y 1950au datblygodd y clwb a ffynnu i’r Gymdeithas a wyddom amdani heddiw.
Cymdeithas yw sydd yn fodlon cadw i fyny â’r gêm fodern a datblygu’n ymhellach gyda’r dyfodol mewn golwg.
Parhaodd Cymdeithas Fowlio Cymry Llundain ei thwf a’i hymgyrch moderneiddio pan ddaeth y Gymdeithas alltud gyntaf i fynd yn agored a chroesawu aelodau gwrywaidd a benywaidd.
Beth am ddod draw a chefnogi Cymry Llundain wrth iddyn nhw chwarae – ychydig o oriau gwych gyda chriw bendigedig o fowlwyr Cymreig – efallai hyd yn oed ymholi am ymaelodi. . !
Mae’r Gymdeithas yn croesawu bowlwyr sydd wedi’u geni yng Nghymru, o dras Cymreig, neu gyda thadogaeth Cymreig.
Mae ganddi restr gemau ddeniadol, dan do ac yn yr awyr agored fel ei gilydd ar draws y Siroedd Cartref ac i Afordir y De, gan gystadlu yn erbyn siroedd, cymdeithasau a chlybiau sydd yn dathlu penblwydd arwyddocaol.
Yr hyn sydd yn nodweddiadol o’r tymhorau gemau dan do a’r awyr agored yw’r teithiau sydd yn cael eu cefnogi’n dda, fel arfer i Gymru.