• Dyddiad
    22nd Chwefror 2020
  • Man cyfarfod
    Chiswick Boathouse, Riverside Lands Playing Fields, Dukes Meadows, Chiswick W4 2SH
  • Gwesteiwr
    London Welsh AFC
  • Categori
    Chwaraeon

Croeso i Glwb Pêl Droed Cymry Llundain.

Wedi’i sefydlu yn 1891 ni yw un o glybiau pêl droed hynaf Llundain.

Rydym yn rhedeg dau dîm sydd yn chwarae yn yr ‘Amateur Football Combination’, cynghrair prynhawn Sadwrn yn Llundain ac un o gynghreiriau pêl droed amatur mwyaf Ewrop.

Mae nifer o chwaraewyr Cymreig gennym, yn cynnwys rhai sy'n siarad Cymraeg, ac rydym yn gwasanaethu fel y tîm hen fechgyn i’r Prifysgolion Cymreig yn Llundain. Mae cydbwysedd ein chwaraewyr o amryw o wledydd eraill (gan gynnwys Lloegr!), ac rydym yn wirioneddol yn glwb cosmopolitan.

Mae safon y chwarae yn uchel gan fod nifer o’n chwaraewyr wedi chwarae ar lefel ‘semi pro’ a sirol, ond nid ydym yn cymryd ein hunain yn ormodol o ddifrif ac mae ochr cymdeithasol y clwb yr un mor bwysig a bywiog ag y mae’r bêl droed.

Rydym bob amser yn chwilio am chwaraewyr dawnus newydd, a chaiff pob chwaraewr newydd groeso gwresog iawn.

Felly os ydych yn ystyried clwb newydd, beth am ymuno â ni.