• Dyddiad
    26th Chwefror 2026 at 5:30yp
  • Man cyfarfod
    PwC Embankment
  • Gwesteiwr
    Call of the Wild and PwC
  • Categori
    Busnes, diwydiant a thechnoleg

Ymunwch â ni ar gyfer noson ysbrydoledig a fydd yn codi’r clawr ar un o heriau mwyaf arweinyddiaeth heddiw – trefnu gweithlu sy’n rhychwantu pum cenhedlaeth, pob un â’i ddisgwyliadau, cryfderau a ffyrdd o weithio gwahanol.

Ymchwil Newydd. Safbwyntiau Newydd. Mewnwelediadau Allweddol.

Mae Call of the Wild ar y cyd ag OnePoll wedi arolwg 2,000 o weithwyr swyddfa ledled y Deyrnas Unedig, gan ddatgelu gwirioneddau rhyfedd sydd yn herio stereoteipiau adnabyddus am Baby Boomers, Gen X, Millennials, a Gen Z.

Mae’r canlyniadau’n dangos beth mae pobl mewn gwirionedd eisiau gan eu harweinwyr, a sut bydd rhaid i sefydliadau esblygu i lwyddo yn yr oes hon o newid cyflym.

Panel i Gynhyrfu’r Meddwl na Fyddwch am ei Golli

Gyda Robert Lloyd Griffiths OBE OStJ DL wrth y llyw, daw ein panel arbenigwyr â lleisiau o arweinyddiaeth, hyfforddiant ac un o sefydliadau gwasanaethau proffesiynol mwyaf dylanwadol y DU ynghyd:

Lynda Campbell – hyfforddwr arweinyddiaeth deinamig a chyn uwch arweinydd British Gas a adnabyddir am trawsnewid diwylliannau ac adeiladu arweinwyr gwydn hyderus.

Wendy Edwards –Cyfarwyddwr Pobl grymus PwC, yn gyrru’r strategaeth bobl ar gyfer 3,000+ o ymgynghorwyr ledled y DU.

Ein Gwestai, Robert Lloyd Griffiths OBE OStJ DL – arweinydd busnes, aelod bwrdd, cynghorwr strategol a Chyfarwyddwr dros Gymru’r ICAEW profiadol iawn, yn enwog am ei ddylanwad strategol ar draws llywodraeth a diwydiant.

Gyda’i gilydd, byddan nhw’n archwilio’r mewnwelediadau, rhannu’u profiad gwirioneddol, a thrafod sut y gall arweinyddion adeiladu diwylliannau lle gall pob cenhedlaeth deimlo eu bod yn cael cefnogaeth, eu clywed a’u grymuso.

Pam fod yn besennol?

  • Elwa a’r fynediad unigryw i ganfyddiadau ymchwil newydd sbon
  • Herio tybiaethau ac archwilio yr hyn sydd mewn gwirionedd yn cymell cenedlaethau gwahanol
  • Gadael gyda strategaethau priodol i gryfhau’ch dull arwain

Cysylltwch ag uwch arweinwyr a gweithwyr AD proffesiynol mewn man cyfarfod clyd a chroesawgar

Mae hwn yn ddigwyddiad Wythnos Cymru Llundain pwysig ar gyfer unrhyw un sydd yn teimlo’n angerddol am arweinyddiaeth, diwylliant neu dyfodol gwaith.

Mae’r llefydd yn bwrpasol gyfyngedig i sicrhau sgyrsiau a chysylltiadau ystyrlon – cysylltwch â Rebecca@callofthewild.co.uk i neilltuo’ch lle.