• Dyddiad
    8th Rhagfyr 2020 at 02:00yp
  • Man cyfarfod
    Ar-lein
  • Gwesteiwr
    Wales Week Worldwide
  • Categori
    Adloniant a Chymdeithasol

Pleser yw eich croesawu i ymuno â ni ar gyfer lansio Cymru Fyd-eang 2021!

Edrychwn ymlaen at roi’r newyddion diweddaraf i chi ynghylch ein cynlluniau ar gyfer y gwanwyn hwn wrth i Wythnosau Cymru ddigwydd ar draws y byd - rhaglenni digwyddiadau a gynhelir dros gyfnod pythefnos o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi - yn dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru, gan goffáu dydd ein Nawddsant a hybu Cymru fodern i weddill y byd.

Ar gyfer y digwyddiad lansio hwn roeddem wrth ein bodd bod gwesteion arbennig yn cynnwys yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, y Gwir Anrhydeddus Simon Hart AS, Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates AS, a’r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol i Gymru a Llywydd Felindre, Jonathan Davies OBE.

Cawn glywed gan bob un o’n gwesteion arbennig, ac yna bydd sesiwn C&A gyda nhw i gyd.

Mae’r ddolen i’r digwyddiad fel a ganlyn https://walesweek.world/launch...

Ni allwn aros i’ch gweld – ac yn edrych ymlaen efallai’n fwy nag erioed i’r gwanwyn – ar gyfer Wythnosau Cymru ar draws y byd i helpu codi digalondid y pandemig yn y cyfnod diweddar hwn!