• Dyddiad
    18th Chwefror 2022
  • Man cyfarfod
    Flowers Gallery, 82 Kingsland Road E2 8DP
  • Gwesteiwr
    Flowers Gallery
  • Categori
    Celfyddydau A Diwylliant

Mae Flowers Gallery yn falch i gyflwyno arddangosfa o beintiadau diweddar gan yr arlunydd Cymreig o fri, Kevin Sinnott. Teitl yr arddangosfa, Liebestod (sydd yn cyfieithu o’r Almaeneg fel ‘cariad’ a ‘marwolaeth’) yw teitl y peintiad coffaol canolog hefyd, gwaith mwyaf a mwyaf uchelgeisiol Sinnott hyd yn hyn.

Disgrifia Sinnott raddfa a thema Liebestod fel "operatic" yn ei archwiliad o drasiedi cariad dynol, gan ymgyfuno eiconograffi personol â chyfeiriadau i’r cariadon chwedlonol, drychinebus Tristan ac Isolde. Mae sawl peintiad yn yr arddangosfa yn dangos ffigwr gwrywaidd, ar wastad ei gefn yng nghôl menyw, yn dwyn atgof o’r goddrych hanesyddol celf Pietà. Gellir gweld y thema hwn sydd yn digwydd tro ar ôl yn Strong Woman, a Fallen Man, ac wedi’i droi a’i wyneb i waered yn Goddess of the Dawn, lle caiff ffigwr a’i wyneb i waered ei ddal wrth ei esgidiau, a gweddill ei gorff yn ymddangos yn aneglur mewn cawod o waith brws ystumiol.

Yn ystod 2020, dychwelodd Sinnott i frasluniau a gadwyd yn ystod y 30 o flynyddoedd diwethaf, i "quarry," fel y dywed, "themes invented or discovered throughout my professional life." Mae’r peintiadau a wnaeth Sinnott wrth ymateb i’r llyfrau brasluniau yn cynnwys symbolau adnabyddus, megis yr hafaliad mathemategol o fewn Geometry Lesson (gyda chyfeiriad at Cezanne), a phyllau glo a dyffrynnoedd cefn gwlad Cymru (er enghraifft, yn Collier's Boy), yn aml yn dwyn i gof ac ail ddychmygu storïau pobl leol.

Nodweddir peintiadau Sinnott gan synnwyr cryf o symudiadau, gyda chysylltiadau rhythmig rhwng llinellau a darnau ymdonog o liwiau. Yn aml bydd y peintiadau yn cychwyn gyda’r pwyslais ar gymysgedd a gwneud marciau telynegol, fel y gwelir yn y cyfluniad deinamig o rymuster lletraws, gwrthwynebol yn y peintiad Pantygog, lle mae gogwydd dramatig y dref yn y pellter yn gwrthosod yn nerthol â’r ffigurau canolog.