• Dyddiad
    24th Chwefror 2022 at 09:00yb
  • Man cyfarfod
    The Grove Golf Club, Watford
  • Gwesteiwr
    Velindre Cancer Charity & Phillips Consultants
  • Categori
    Chwaraeon

Bydd un o fawrion rygbi, Jonathan ‘Jiffy’ Davies, yn cynnal diwrnod golff arbennig yn y Grove Golf Club unigryw i godi arian ar gyfer Elusen Gancr Felindre, lle mae’n falch i fod yn Llywydd.

Bydd yn cynnal Diwrnod Golff Gwŷr Enwog ar gyfer Felindre yng Nghaerdydd bob blwyddyn, ond bellach mae’n ei gymryd i Lundain fel rhan o Wythnos Cymru yn Llundain.

Yn ymuno â Jonathan, bydd rhai ffrindiau enwog o fyd chwaraeon ac adloniant, ar gyfer diwrnod golff ar un o gyrsiau golff mwyaf mawreddog y Deyrnas Unedig.

Ar ôl y golff, cewch fwynhau diod, cinio cerfdy a sesiwn gwestiwn ac ateb gan y prif gymeriad ei hunan, sydd bob amser yn difyrru, a hefyd bydd seremoni gwobrwyo, raffl ac ocsiwn elusennol.

Bu Jonathan yn ymwneud ag Elusen Gancr Felindre ers 2007 gan helpu i godi dros £35miliwn o bunnoedd yn y cyfnod hwnnw.

Mae’r amserlen ar gyfer y diwrnod fel a ganlyn:

- 9.00am – Coffi a rholiau bacwn

- 10.00am – Dechrau gorfodol

- 3.00pm - Diod

- 4.00pm – Cinio cerfdy

- Yna, C&A gyda Jonathan Davies OBE

- Raffl ac ocsiwn elusennol

Mae nifer o dimau eisioes wedi neilltuo’u lle, felly cysylltwch cyn gynted ag y gallwch gadarnhau’ch lle.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu ar y 24ain ar gyfer diwrnod arbennig!